(Translation) Nid oes eisiau sleisan arall o’r darten – Rydym ni eisiau’r ffycin’ becws cyfa!

(Cyfieithiad – Cymraeg | English)

Web readable copy of flyer

(I’w argraffu – PDF | PDF amgen)

Gyda’r Llywodraeth Doriaidd a’i thoriadau, colledion swyddi, preifateiddio a gweddill y cachu maent yn ei wthio arnom ar ran y cyfoethog, dylen ni ymladd nôl. Ond pam stopio gyda gwrthod llymder yn unig? Mae gweithwyr erioed wedi cael tal a amodau gwaeth nag yr hyn ymae nhw yn ei haeddu – hyd yn oed cyn y torriadau. Mae’r llywodraeth wedi ceisio ffwcio gyda ni ar ran pobl (y cyfalafwyr) sydd yn mynd yn gyfoethog o ein gwaith caled ni. Dim diolch! Mae angen i ni greu system newydd, nid amddiffyn yr hen un.

Ymladd Nôl

Mae nifer o brotestiadau a streiciau un-dydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf. Mae gwneud rhywbeth yn well na gwneud dim, ond nid yw’r tactegau hyn wedi bod yn rhan o wella ein bywydau bob dydd. Mae cerdded mewn gorymdaith sydd wedi ei gytuno gyda’r Heddlu o flaen llaw ddim am ddychryn y Llywodraeth i wneud consesiynau ag i fod yn “neisach” tuagatom ni. Mae streic symbolaidd yn golygu colli diwrnod o arian, ond nid yw’n gwneud unrhyw niwedi’r Meistri. Os yr ydym am ennill mae angen mynd yn bellach arnom. Golyga hyn streiciau sydd yn para wythnosau, nid dyddiau, a protestiadau ble mae gweithredu uniongyrchol yn digwydd.

Targedu’r Cyfoethog

Er bod modd i ni bleidleisio dros wleidyddion – y mae arian yn rym hefyd a does gennym ni ddim dweud ynglyn a phwy sydd yn ei gael. Gan y Meistri, bancwyr, a chathod tew eraill ddylanwad anferth dros ein bywyd. Nhw yw’r rhai a achosodd y torriadau a’r colledion swyddi a nhw yw’r rhai a gychwynnodd y crisis economaidd. Ers hynny mae llawer ohonom wedi dod yn fwy tlawd, tra mae’r cyfoethog wedi parhau i ddod mwy cyfoethog trwyddom ni. Yr unig ddull i cael eu sylw yw eu taro ble mae’n eu brifo nhw – eu helw. Yn y tymor byr gallwn wneud hyn drwy gwenud ein protestiadau mwy bywiog: meddiannu siopau, blocio lonydd a hyd yn oed difrodi eiddo.

Trefnu ein Hunain

Mae angen i ni weithio gyda ein gilydd a bod yn gefn i’n gilydd os ydym ni am guro’r gwelidyddion a’r Meistri. Y cam cyntaf yw i ganfod pobl eraill sydd eisiau brwydro. Gall hyn olygu ymmuno a undeb, mynd i grwp gwrth-doriadau lleol neu wrth siarad gyda phobl sydd yn byw yn yr un ardal neu yn gweithio yn yr un lle. Y dull gorau i frwydro yw drwy cael ennillion bychan sydd yn ein heffeithio yn uniongyrchol, yna yn adeiladu ar hynny. Os ydym yn defnyddio gweithredu uniongyrchol fel mynd ar streic neu gwrthod a talu rent fel grwp o denantiaid, gallwn ennill pethau all wneud gwahaniaeth i’n bywydau.

Dyma’r Cychwyn…

Mae’r llefydd yr ydym ni yn gweithio, astudio a byw ynddyn nhw wedi bod o dan rheolaeth y cyfoethog a’r pwerus. O ganlyniad i hyn mae ein gweithleoedd a’n cymuneddau eu rhedeg mewn dull sydd yn elwa’r cyfoethog yn hytrach na dros ein diddordebau ni. Dylai ffatrioedd gael eu rhedeg gan pobl sydd gorfod gweithio ynddyn nhw bob dydd, dim Meistri cyfoethog. Dylai tai gael eu rheoli a’u goflau amdanyn nhw gan y pobl sydd yn byw ynddyn nhw, nid landlordiaid. Dylai ysgolion gael eu rhedeg gan athrawon, myfyrwyr a rhienni, nid biwrocratiaid y llywodraeth. Dim ond wedyn byddwn yn cael ein trin fel pobl yn hytrach na phethau y gellid eu hurio neu sacio, eu gorfodi i dalu rent neu eu efictio, yn uniol a chwiwiau’r cyfoethog.

Beth Nawr?

  • DWYSAU – Dadleuwch dros dactegau mwy milwriaethus ar brotestiadau ac yn erbyn dad rymuso gorymdeithiau A i B. Ymgasgla gyda dy gyfeillion a cymera’r cam cynta mewn ymladd nôl – does dim angen caniatad neb arnat ti!
  • TREFNU – O Undebau a grwpiau tenantiaid sydd wedi eu seilio ar weithredu uniongyrchol a democratiaeth uniongyrchol. Chwilia am bobl eraill sydd eisiau newid a gweithia gyda nhw i frwydro.
  • UNO – Cyfathreba gyda pobl sydd yn cwffio nol mewn cymunedau a diwydiannau eraill. Crea ddolen rhwng eich brwydrau yn lleol a rhyngwladol.
  • CYD-SEFYLL – Crea grwpiau i gefnogi’r sawl a dderbyna triniaeth wael gan yr Heddlu gan eu bod yn brwydro nol. Rhowch cefnogaeth i’ch gilydd yn y llysoedd ac ar y strydoedd. A paid byth a prepian. Paid a gadael y cyfoethog i ein rhannu a’n rheoli!

Dolenni

Anarchwyr De Cymru southwalesanarchists.wordpress.com
Cael y System Allan o’m System anerchiadanarchaidd.wordpress.com
Y Rwydwaith Gweitredu Anarchaidd www.anarchistaction.net
Canllawiau trefnu www.libcom.org/organise
Gweithwyr Diwydiannol y Byd www.walesiww.org.uk
Disabled People Against the Cuts www.dpac.uk.net
Boycott Workfare www.boycottworkfare.org
Network for Police Monitoring www.netpol.org
GBC (cefnogaeth cyfreithiol i brotestwyr) greenandblackcross.org
Ffederasiwn Anarchaidd www.afed.org.uk

(Ni wnaeth y grwpiau hyn gymeryd rhan yn cynhyrchu’r daflen hon)

4 thoughts on “(Translation) Nid oes eisiau sleisan arall o’r darten – Rydym ni eisiau’r ffycin’ becws cyfa!

  1. Pingback: We Don’t Want a Bigger Slice of the Pie… New Version! | TheViolentMinority

  2. Pingback: Nid oes eisiau sleisan arall o’r darten – Rydym ni eisiau’r ffycin’ becws cyfa! | Cael y System Allan o'm System

Leave a comment